CROESO / WELCOME
CROESO / WELCOME
Mae’r gwaith yma wedi ei gwblhau mewn stiwdio, yn arbrofi gyda technegau a phroses. Yn syml, rwy’n peintio’r byd o f’amgylch, y tir, bywyd llonnydd a sefyllfaoedd bob dydd.
Rwy’n credu mewn creu darnau gwreiddiol a gweld y byd yn newydd, gan ymateb i’r hyn sydd o’mlaen i. Mae gennyf ddiddordeb yn lliwiau a siapiau’r tir, yn ogystal a hanes a diwylliant cyfoethog Gogledd Cymru sydd yma o’n cwmpas yn y chwareli a’r mynyddoedd.
Er bod rhai darnau yn ffigurol, rwy’n cymeryd risgiau a gwthio fy ffiniau wrth greu gwaith haniaethol, gan newid technegau a dulliau er mwyn diddori fy hun ac i ysgogi fy ngwaith.
Mae’r tir yn bwysig iawn i mi, a rwyf yn parhau i fwynhau cerdded ac archwilio ardal Eryri. Yn syml rwy’n ymateb i’r tir a’r ardal ble cefais fy ngeni a’m magu, gan geisio dal eiliad mewn amser drwy broses creadigol.